Lleoliad:
Fideogynhadledd drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Llun, 15 Mawrth 2021
Amser:
09.30 -
10.48
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/11068
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Mick Antoniw AS (Cadeirydd) Carwyn Jones AS Dai Lloyd AS David Melding AS |
Staff y Pwyllgor: |
P Gareth Williams (Clerc) Sarah Sargent (Ail Glerc) Gareth Howells (Cynghorydd Cyfreithiol) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
Cadarnhaodd y Cadeirydd, yn unol â Rheol Sefydlog 34.19, ei fod wedi penderfynu gwahardd y cyhoedd o gyfarfod y Pwyllgor er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd.
Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau na dirprwyon.
2 Offerynnau nad ydynt yn cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 na 21.3
2.1 SL(5)756 - Rheoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwystra) (Cymru) (Diwygio) 2021
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ac roedd yn fodlon arno.
2.2 SL(5)779 – Gorchymyn Ystadegau Swyddogol (Cymru) (Diwygio) 2021
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ac roedd yn fodlon arno.
3 Offerynnau sy'n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3
3.1 SL(5)770 - Rheoliadau Addysg (Benthyciadau i Fyfyrwyr) (Ad-dalu) (Diwygio) 2021
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwynt adrodd a nodwyd.
3.2 SL(5)757 - Rheoliadau Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (Diwygiadau Canlyniadol a Darpariaethau Amrywiol) 2021
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ynghyd ag ymateb Llywodraeth Cymru a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd.
3.3 SL(5)758 - Gorchymyn Cyngor y Gweithlu Addysg (Gorchmynion Atal Dros Dro Interim) (Swyddogaethau Ychwanegol) (Cymru) 2021
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwynt adrodd a nodwyd.
3.4 SL(5)769 – Rheoliadau Cymorth Amaethyddol (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â'r UE) 2021
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ac ymateb y Llywodraeth iddo, a nododd fod yr offeryn wedi'i dynnu'n ôl a'i ddisodli gan Reoliadau Cymorth Amaethyddol (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â'r UE) 2021.
3.5 SL(5)783 - Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Amrywio Dros Dro Gyfraddau a Bandiau ar gyfer Trafodiadau Eiddo Preswyl) (Cymru) (Diwygio) 2021
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd.
4 Offerynnau sy'n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3 - trafodwyd yn flaenorol.
4.1 SL(5)764 - Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Diwygio Atodlen 6 i Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011) 2021
Nododd y Pwyllgor ymateb Llywodraeth Cymru.
5 Datganiadau ysgrifenedig o dan Reol Sefydlog 30C
5.1 WS-30C(5)217 - Rheoliadau Allyriadau Nwyon Ty Gwydr (Cofrestrfa Protocol Kyoto) (Diwygio) (Ymadael â'r UE) 2021
Nododd y Pwyllgor y datganiad a'r sylwebaeth. Yn ogystal, cytunodd y Pwyllgor i ofyn am eglurhad pellach gan y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd mewn perthynas â'r datganiad.
6 Papur(au) i’w nodi
6.1 Llythyr gan The Kennel Club: Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Trwyddedu Gweithgareddau sy’n Ymwneud ag Anifeiliaid) (Cymru) 2021
Nododd y Pwyllgor y llythyr, a chytunodd i dynnu sylw Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig ato.
6.2 Llythyr oddi wrth Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig: Adroddiad y Pwyllgor ar Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol Llywodraeth Cymru ar Fil yr Amgylchedd.
Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig.
6.3 Llythyr oddi wrth Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig: Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Mesur Dros Dro) (Covid-19) (Diwygio) 2021 a'r Rheoliadau Organig (Diwygio) 2021
Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig.
7 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod
Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.
8 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Lles Anifeiliaid (Dedfrydu) - trafod yr adroddiad drafft
Trafododd y Pwyllgor ei adroddiad drafft ar Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol Llywodraeth Cymru ar y Bil Lles Anifeiliaid (Dedfrydu), a chytunodd i gwblhau'r drafodaeth arno y tu allan i'r Pwyllgor.
9 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil y Lluoedd Arfog - trafod yr adroddiad drafft
Trafododd y Pwyllgor ei adroddiad drafft ar Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Llywodraeth Cymru ar Fil y Lluoedd Arfog, a chytunodd i ystyried fersiwn ddiwygiedig yn ei gyfarfod nesaf.
10 Gwaith gwaddol - trafod yr adroddiad drafft
Trafododd y Pwyllgor ddrafft diwygiedig o’i adroddiad gwaddol, a chytunodd i ystyried drafft diwygiedig arall yn y cyfarfod nesaf.